newidiadau

Bwriad safoni termau yw cytuno ar un term safonol i’w ddefnyddio ar gyfer cysyniad penodol. O ganlyniad, nid ar chwarae bach y byddwn ni’n newid term sydd eisoes wedi’i safoni. Serch hynny, o bryd i’w gilydd fe ddaw hi’n amlwg nad yw hi bellach yn briodol i arddel y term a safonwyd yn wreiddiol fel y term safonol cyfredol.

Ar yr adegau prin hynny pan fyddwn yn teimlo bod rheswm cryf dros newid term sydd eisoes wedi’i safoni, byddwn yn cyhoeddi’r term gwreiddiol, y term diwygiedig, a’r rhesymau dros y newid yn y tabl isod.

Term Saesneg Term Gwreiddiol Term Safonol Diwygiedig Rheswm
artificial harmonic cyseiniau gwneud harmonig artiffisial Newidiwyd y term Cymraeg o ‘cyseiniau gwneud’ i ‘harmonig artiffisial’. Defnyddir ‘harmonig’ i gyfateb i’r enw Saesneg ‘harmonic’. Caiff ‘cysain’ ar gyfer ‘resonance’, felly nid yw’n briodol yma. Penderfynwyd defnyddio ‘artiffisial’ fel ail elfen yn hytrach na ‘gwneud’ gan mai dyna a arferir gennym mewn cyd-destunau technegol.
audio frequency amledd awdio amleddau clywadwy Newidiwyd o ‘amledd awdio’ i ‘amleddau clywadwy’. Cyfeiria audio frequency at ystod o amleddau (tua 20Hz-20kHz) , felly mae’n fwy priodol defnyddio’r lluosog na’r unigol yma. Defnyddir ‘sain’ i gyfateb i ‘audio’ pan ‘audio yn enw, ond yma mae ‘audio’ yn gweithredu fel ansoddair sy’n cyfateb i ‘o fewn cwmpas clyw’. Yr ansodair cyfatebol Cymraeg yw ‘clywadwy’. Er mwyn eglurder, ac er mwyn osgoi sefyllfa lle y caiff ‘awdio’ ei osgoi ar gyfer enw ond ei ddefnyddio ar gyfer ansoddair, argymhellwn ‘amleddau clywadwy’.
autonomic nervous system cyfundrefn nerfol awtonomig system nerfol awtonomig Newidiwyd y term o ‘cyfundrefn nerfol awtonomig’ i ‘system nerfol awtonomig’ er mwyn cysondeb gyda’r termau eraill sy’n cynnwys ‘system nerfol’ e.e. system nerfol berifferol a system nerfol sympathetig.
bass boost atgyfnerthiad bas cyfnerthiad bas Newidiwyd ‘atgyfnerthiad bas i ‘cyfnerthiad bas’ er mwyn gallu gwahaniaethu rhwng ‘boost’ (cyfnerthiad) a ‘reinforcement’ (atgyfenrthiad).
cordless diwifr di-wifr Newidiwyd yr elfen ‘diwifr’ i ‘di-wifr’ er mwyn cyd-fynd gyda Termcymru a’r aceniad a geir wrth ei ynganu.
cystic fibrosis ffibrosis y bledren ffibrosis cystig Mewn trafodaeth gyda CBAC, penderfynwyd newid y term Cymraeg sy’n cyfateb i ‘cystic fibrosis’ o ‘ffibrosis y bledren’ i ‘ffibrosis cystig’ er mwyn sicrhau cywirdeb cysyniadol. Nid yw ‘cystic fibrosis’ o reidrwydd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r bledren. Mae’n effeithio’n bennaf ar y pancreas a bronciolynnau’r ysgyfaint. Gall achosi anymataliaeth wrin mewn rhai merched, ond nid yw hynny yn rhan o hanfod y cyflwr. Noder na ddylid trosi’r ‘c’ yn ‘s’ ar batrwm yr ynganiad Saesneg, ond cadw at yr ‘c’ galed yn y Gymraeg ar batrwm yr ynganiad Clasurol a ddaeth o’r iaith Roeg trwy’r Lladin.
flows llifau llifoedd Newidiwyd lluosog ‘llif’ (=flow) o ‘llifau’ i ‘llifoedd’ er mwyn cysondeb gyda thermau eraill sy’n cynnwys yr elfen honno a geiriaduron termau eraill.
football stadium stadia pêl-droed stadiymau pêl-droed Newidiwyd ffurf luosog ‘stadiwm’ o ‘stadia’ i ‘stadiymau’ gan mai dyma’r ffurf a ddefnyddwyd ar wefannau cyffredin fel rhai’r BBC, Golwg a Wikipedia, ac na chafwyd tystiolaeth amlwg o ddefnydd y ffurf luosog ‘stadia’.
gluon glwon gliwon Wedi trafodaeth gyda CBAC newidiwyd ‘glwon’ i ‘gliwon’ er mwyn cysondeb gyda’r term ‘miwon’, ac er mwyn osgoi defnyddio ‘ẅ’ i gynrychioli’r aceniad. Roedd CAA wedi defnyddio ‘gliwon’ yn eu cyhoeddiad ‘Cyflwyniad i Ffiseg Safon Uwch’.
ground the ball turio’r bêl tirio’r bêl Cywirwyd ‘turio’ i ‘tirio’ gan mai gosod y bêl ar y ‘tir’ yw’r ystyr a geir yma, nid unrhyw ‘durio’ trwy’r pridd. Ceir defnydd o ‘tirio’ yn y cyd-destun hwn ar wefannau’r BBC, Golwg a thîm rygbi’r Scarlets.
hanging valley crognant dyffryn crog Newidiwyd y term hwn ar gais arbenigwyr pwnc Daeareg. Dyffryn wedi ei leoli’n sylweddol uwch ac oddi ar i ddyffryn arall a geir yn y cysyniad hwn. Nid oes ‘nant’ o reidrwydd yn bresennol, er bod hynny’n weddol gyffredin. Yn bwysicach, nid presenoldeb nant neu lif dŵr sy’n arwyddocáu ‘hanging valley’. Yn hytrach, yr hyn sydd yn ei nodweddu yw’r ffaith ei fod yn ddyffryn wedi’i leoli yn sylweddol uwch na dyffryn cysylltiedig. O ran etymoleg y gair, mae’n wir yr arferai ‘nant’ fod â’r un ystyr â ‘dyffryn’, ond nid yw’r ystyr hwnnw wedi parhau mewn Cymraeg modern.
kick for touch cic am ystlys cic am yr ystlys Newidiwyd y term Cymraeg o ‘cic am ystlys’ i ‘cic am yr ystlys’ gan y bydd chwaraewyr rygbi wastad yn cicio am ystlys benodol.
liquid crystal display arddangosiad grisial hylif dangosydd grisial hylif Newidiwyd y term hwn o ‘arddangosiad grisial hylif’ i ‘dangosydd grisial hylif’ gan mai at fath o sgrin gyfrifiadurol y mae’r term yn cyfeirio, nid at ddigwyddiad arddangos.
loudspeaker uchelseinydd seinydd Newidiwyd y term Cymraeg sy’n cyfateb i ‘loudspeaker’ o ‘uchelseinydd’ i seinydd. Nid oes angen cyfateb yr elfen ‘loud’ yn y term cyfatebol Cymraeg. Mae ‘speaker’ yn Saesneg yn amwys o ran a yw’n cyfeirio at berson neu ddyfais. Nid yw ‘seinydd’ yn amwys yn yr un modd, felly nid oes angen ail elfen i’w ddadamwyso.
network connection cyswllt rhwydwaith cysylltiad rhwydwaith Newidiwyd y term ‘cyswllt rhwydwaith’ i ‘cysylltiad rhwydwaith’ er mwyn cysondeb gyda’r termau eraill sy’n cynnwys ‘connection’ e.e. ‘cysylltiad gwe’.
oracy llefaredd llafaredd Newidiwyd y term Cymraeg o ‘llefaredd’ i ‘llafaredd’ ar gais Llywodraeth Cymru gan mai dyna’r hyn sydd wedi’i ddefnyddio yn nogfennau cwricwlwm y gorffennol.
phase cydwedd gwedd Newidiwyd y term Cymraeg sy’n cyfateb i ‘phase’ o ‘cydwedd’ i ‘gwedd’. Yng nghyd-destun tonnau, mae ‘cydwedd’ yn cyfateb i ‘in phase’, tra bo ‘gwedd’ yn cyfateb i ‘phase’.
pre-amp/preamplifier rheolydd tôn rhagfwyhadur Cyfunwyd y cofnodion ar gyfer ‘pre-amp’ a ‘preamplifier’ gan mai ffurf fer ar preamplifier yw pre-amp. Dilewyd ‘rheolydd tôn’ fel term cyfatebol Cymraeg, gan ei fod yn gysyniadol anghywir. Nid yw ‘preamplifier’ o reidrwydd yn rheoli tôn.
rights iawnderau hawliau Newidiwyd y term ‘iawnderau’ i ‘hawliau’ i adlewyrchu’r defnydd cyfoes. Awgrymwn ddefnyddio ‘iawnderau’ yn unig mewn teitlau dogfennau hanesyddol megis Mesur Iawnderau 1689.
treble boost atgyfnerthiad trebl cyfnerthiad trebl Newidiwyd ‘atgyfnerthiad trebl’ i ‘cyfnerthiad trebl’ er mwyn gallu gwahaniaethu rhwng ‘boost’ (cyfnerthiad) a ‘reinforcement’ (atgyfnerthiad).
wireless diwifr di-wifr Newidiwyd ‘diwifr’ i ‘di-wifr’ er mwyn cyd-fynd gyda Termcymru a’r aceniad a geir wrth ei ynganu.
wireless network rhwydwaith ddiwfr rhwydwaith ddi-wfr Newidiwyd ‘diwifr’ i ‘di-wifr’ er mwyn cyd-fynd gyda Termcymru a’r aceniad a geir wrth ei ynganu.
volume sŵn lefel sain Newidiwyd y term sy’n cyfateb i ‘volume’ yng nghyd-destun sain o ‘sŵn’ i ‘lefel sain’ gan fod ‘sŵn’ yn dechnegol yn cyfateb i ‘noise’.