Mae cynnwys Y Termiadur Addysg ar ar gael am ddim o fewn yr Ap Geiriaduron o’r App Store, Google Play a’r Amazon App Store.

Mae’r Ap Geiriaduron yn eich galluogi i chwilio am dermau addysg safonol a geirfa gyffredinol yn Saesneg ac yn Gymraeg ar eich dyfais iPhone, iPad neu Android hyd yn oed pan nad oes gennych gysylltiad i’r we.
Nodweddion:
- Chwilio’n sydyn mewn amser real
 - Nodwedd awtogwblhau – does dim rhaid teipio termau’n llawn!
 - Geiriadur all-lein er mwyn chwilio ar unrhyw adeg
 - Ap cyffredinol ar gyfer Android, iPad a’r iPhone
 - Graffigau ar gyfer Retina Display
 - Iaith y sgrin ar gael yn Gymraeg neu Saesneg, gyda modd i newid yr iaith
 - Gallu dad-dreiglo a dad-redeg berfau i ddangos ffurf wreiddiol i eiriau
 - Nodwedd manylu er mwyn cael rhagor o wybodaeth am air
 - Modd chwilio gyda nodau chwilio; e.e. ei ddefnyddio fel odliadur drwy chwilio am ‘*aith’ er mwyn dangos geiriau sy‘n gorffen gyda ‘aith’
 - Cynnwys geiriadur ‘Y Termiadur Addysg’; wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel geiriadur o dermau addysg safonol
 - Botwm i chwilio’n bellach ar-lein gyda’r Porth Termau ar termau.org
 - Diweddariadau awtomatig er mwyn ychwanegu termau a geiriau newydd
 - Cafodd yr ap ei greu gan Patrick Robertson, David Chan, Gruffudd Prys, Dewi Jones ac aelodau eraill o’r Uned Technolegau Iaith.